Eisteddfod Genedlaethol Cymru - y Garreg Las
Eleni, rydym yn dathlu 850 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod gyntaf erioed a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld ag ardal y Garreg Las rhwng 01 a 08 Awst 2026.
Llantwd yng ngogledd Sir Benfro fydd cartref y brifwyl, ond mae ardal y Garreg Las yn cwmpasu de Ceredigion, gorllewin Sir Gâr a Sir Benfro gyfan.
Dyma gân arbennig gan ddisgyblion ysgolion cynradd ardal y Garreg Las i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol. Chwiliwch am ‘Croeso i Fro’r Garreg Las’ ar yr holl blatfformau ffrydio digidol, a mwynhewch wrando ar leisiau ieuenctid y fro.
Taith yr Arglwydd Rhys
Bydd diwrnod o hwyl yn cael ei gynnal yn Aberteifi ddydd Sadwrn, 27 Mehefin, o 12pm ymlaen.
Bydd prynhawn o gerddoriaeth, barddoniaeth a hwyl yng Nghastell Aberteifi cyn croesawu pyped arbennig o’r Arglwydd Rhys a’i gi Teifi.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar y dudalen Facebook, Taith yr Arglwydd Rhys.

Amserlen
Mae amserlen lawn o’r gweithgareddau a’r cystadlaethau a gynhelir yn ystod yr wythnos ar gael ar wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn ardal ‘Pentre’r Garreg Las’ ar y Maes.
Prosiect Harddu
Ydych chi’n cofio’r baneri hardd yn arwain y ffordd i Dregaron yn 2022? Beth am fynd ati eto eleni i groesawu’r Garreg Las? Mae rhagor o wybodaeth a syniadau creadigol i’w cael ar tudalen Prosiect Harddu 2026 yr Eisteddfod.
Dolenni defnyddiol
- Ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol i weld rhestr lawn o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau, sut i archebu tocynnau, a llawer mwy
- Am syniadau am fannau i ymweld â nhw, lleoedd bwyta a llety yng Ngheredigion, ewch i wefan Darganfod Ceredigion
- Dysgwch fwy am y traddodiad eisteddfodol yng Ngheredigion
Newyddion
Disgyblion cynradd ardal y Garreg Las yn uno i lansio cân arbennig