Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

JDS Machinery Rali Ceredigion 2026

Mae JDS Machinery Rali Ceredigion yn dychwelyd rhwng 4–6 Medi 2026, gan ddod â thri diwrnod o foduro o’r radd flaenaf i Geredigion a Phowys fel rhan o Bencampwriaeth Rali Ewrop yr FIA a Phencampwriaeth Rali Prydain.

Bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel uchafbwynt ar galendr moduro’r DU, mae’r digwyddiad yn arddangos tirweddau, cymunedau a busnesau’r rhanbarth ar lwyfan rhyngwladol.

Beth i’w ddisgwyl

  • Digwyddiad tridiau gyda rhaglen estynedig ar draws Canolbarth Cymru
  • Cynnwys ym Mhencampwriaeth Rali Hanesyddol Ewrop, gan ddod â cheir rali eiconig i’r rhanbarth

Dydd Iau 3 Medi
Bydd y sioe rali draddodiadol, sesiwn lofnodi ac y seremoni gychwyn yn cael eu cynnal ar Bromenâd Aberystwyth nos Iau.

Dydd Gwener 4 Medi
Bydd dydd Gwener yn dechrau gyda dau gylch llawn cyffro ar lwyfan stryd Aberystwyth, cyn symud ymlaen i ddau gymal yng nghefn gwlad Talybont a Phendam.

Dydd Sadwrn 5 Medi
Bydd dydd Sadwrn yn cynnwys cymalau o amgylch Llyn Brianne, Dyffryn Elan a Phontarfynach, yn y bore ac eto yn y prynhawn. Bydd ail-grwpio yn Rhaeadr Gwy, gan roi cyfle i’r cyhoedd ddod yn agos at y ceir a’r gyrwyr mewn adran ddi-gystadleuol. Bydd y dydd yn gorffen gyda rhediad dwbl arall ar lwyfan Aberystwyth.

Dydd Sul 6 Medi
Ar y diwrnod olaf, bydd dau gymal yn cael eu hailadrodd o amgylch Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron, gyda mannau ail-grwpio yn y ddwy dref, cyn i’r seremoni gloi gael ei chynnal yn ôl ar Bromenâd Aberystwyth.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda threfnwyr, partneriaid a’r gwasanaethau brys i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel, wedi’i reoli’n dda ac yn fuddiol i bawb.

Cynllunio ymlaen llaw

Bydd manylion pellach, gan gynnwys gwybodaeth am y llwybr, amserlenni a chau ffyrdd, yn cael eu rhannu yn y misoedd nesaf i helpu trigolion ac ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw.

Anogwn bawb i:

  • Gadw’n wybodus drwy ddiweddariadau’r Cyngor
  • Cynllunio teithiau ymlaen llaw yn ystod wythnos y digwyddiad
  • Dilyn canllawiau diogelwch wrth fynychu

Cymryd rhan

Mae sawl ffordd o gymryd rhan yn Rali Ceredigion:

  • Mynychu fel gwyliwr gan ddefnyddio’r parthau cefnogwyr swyddogol
  • Cefnogi busnesau lleol a digwyddiadau
  • Fel busnes, bod yn rhan o ddathlu’r digwyddiad
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a mentrau trefol
  • Gwirfoddoli a bod yn rhan o’r digwyddiad

Bydd gweithgaredd ymgysylltu lleol yn dechrau cyn yr haf, gyda chyfleoedd i drigolion a busnesau gymryd rhan.

Cadw’n gyfredol

  • Ewch i’r wefan swyddogol Rali Ceredigion
  • Dilynwch Gyngor Sir Ceredigion a Rali Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd am ddiweddariadau

Ydych chi’n fusnes ac eisiau cymryd rhan?

Bydd ein pecyn ymgysylltu busnes ar gael i’w lawrlwytho’n fuan.

Hysbysiad Cau Maes Parcio

Bydd y meysydd parcio Talu ac Arddangos canlynol ar gau i bob defnyddiwr yn ystod y dyddiadau a'r amseroedd a ddangosir isod.

Gwnewch drefniadau parcio cyfrifol amgen yn ystod y cyfnodau cau hyn.

Maes Parcio Dyddiad/Amser Cau Dyddiad/Amser Ailagor

Coedlan Y Parc /

Coedlan Y Parc Isaf Aberystwyth

6am - Dydd Mercher

2 Medi 2026

8pm - Dydd Sul

6 Medi 2026
Rhodfa Newydd Aberystwyth

6am - Dydd Gwener

4 Medi 2026

6am - Dydd Sul

6 Medi 2026
Maesyrafon Aberystwyth

6am - Dydd Gwener

4 Medi 2026

6am - Dydd Sul

6 Medi 2026

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch gysylltu drwy e-bostio: clic@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.

Her Ffenestr Siop Rali Ceredigion 2026

Mae Ceredigion yn falch o groesawu JDS Machinery Rali Ceredigion 2026 yn ôl i’r sir rhwng 4 a 6 Medi 2026. Bydd y digwyddiad yn dod â chyffro i’r ardal, gan ddenu ymwelwyr a chreu cyfleoedd gwerthfawr i fusnesau lleol.

I gefnogi’r digwyddiad, mae tîm Cynnal y Cardi, o fewn Adran Economi ac Adfywio Cyngor Sir Ceredigion, yn lansio Her Ffenestr Siop ar gyfer busnesau yn Aberystwyth, Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Gwahoddir busnesau i addurno eu ffenestri siop gyda thema greadigol wedi’i hysbrydoli gan ralïo neu chwaraeon moduro. Dylai’r arddangosfeydd fod wedi’u cwblhau erbyn 1 Medi 2026 a’u cadw yn eu lle drwy gydol y digwyddiad.

Bydd panel beirniadu annibynnol yn ymweld â’r trefi ar ddechrau mis Medi, gyda gwobrau’n cael eu cyflwyno i’r ffenestr siop orau yn Aberystwyth, Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Drwy gymryd rhan, gall eich busnes:

  • gael ei arddangos fel rhan o ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol
  • elwa o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymgysylltiad cwsmeriaid
  • helpu i greu awyrgylch fywiog a chroesawgar yn eich tref
  • cefnogi’r economi leol a chryfhau ysbryd cymunedol

Anogir busnesau lletygarwch hefyd i ystyried ymestyn eu horiau agor yn ystod y digwyddiad, neu greu bwydlenni a chynigion arbennig wedi’u hysbrydoli gan y rali.

I gymryd rhan neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.