Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Diolch.

Os na chaiff eich gwastraff ei gasglu fel y trefnwyd, cyflwynwch ef eto ar eich diwrnod casglu nesaf.  Lle nad ydym wedi gallu casglu gwastraff gweddilliol, byddwn yn rhannu gwybodaeth isod gyda chyngor penodol am unrhyw newidiadau dros dro i'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol.

Dyddiad Ardal wedi’i effeithio Math o wastraff sydd wedi’i effeithio Rheswm Cyngor
28ain Mehefin 2026 Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon, Aberystwyth
llwybr 0
Safle Gwastraff Cartref Arall Oherwydd Pencampwriaethau Beicio Cenedlaethol, bydd ffyrdd ar gau a chyfyngiadau mynediad yn effeithio ar Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, sy'n golygu na fydd modd cael mynediad at y safle. O ganlyniad, bydd Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon ar gau ddydd Sul 28 Mehefin 2026. Cynlluniwch ymlaen llaw os oes angen i chi ymweld. Bydd pob safle arall yn aros ar agor fel arfer, yn unol â'u horiau agor arferol.
23ain Mehefin 2026 Llanbadarn Fawr
llwybr 158
Gwydr a Bagiau Du Problemau gyda'r fflyd Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Mercher 24ain Mehefin 2026
23ain Mehefin 2026 Llandysul- The Beeches
llwybr 113
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau mynediad o ganlyniad i gerbydau wedi parcio yn y ffordd Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Mercher 24ain Mehefin 2026
19eg Mehefin 2026 Ponterwyd, Cwm Ystwyth, Pont ar Fynnach, Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ffair Rhos
llwybr 180
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Gwener 26ain Mehefin 2026
17eg Mehefin 2026 Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Meurig, Ffair Rhos, Pontrhydfendigaid, Tregaron, Tynreithyn, Tyncelyn, Bronant, Lledrod, Tynygraig, Llanafan
llwybr 116
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Mercher 24ain Mehefin 2026
17eg Mehefin 2026 U5203 Bryngwenllian
llwybr 160
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau mynediad Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Mercher 24ain Mehefin 2026

Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf

Tywydd Eithafol - Gwastraff yn cael ei gasglu yn gynt.

Bydd ein criwiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn dechrau eu gwaith am 6 yn y bore er mwyn osgoi’r tymheredd uchaf ar ddydd Mercher 23ain a Dydd Iau 24ain o Fehefin 2026. 

Er mwyn sicrhau nad yw’r casgliad yn cael ei golli, gofynnwn yn garedig i drigolion roi eu gwastraff allan y noson cynt.