Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Biniau ac Ailgylchu

Tywydd Eithafol - Gwastraff yn cael ei gasglu yn gynt.

Bydd ein criwiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn dechrau eu gwaith am 6 yn y bore er mwyn osgoi’r tymheredd uchaf ar ddydd Mercher 23ain a Dydd Iau 24ain o Fehefin 2026. 

Er mwyn sicrhau nad yw’r casgliad yn cael ei golli, gofynnwn yn garedig i drigolion roi eu gwastraff allan y noson cynt.

Cau Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon – Dydd Sul 28 Mehefin 2026

Oherwydd Pencampwriaethau Beicio Cenedlaethol, bydd ffyrdd ar gau a chyfyngiadau mynediad yn effeithio ar Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, sy'n golygu na fydd modd cael mynediad at y safle.

O ganlyniad, bydd Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon ar gau ddydd Sul 28 Mehefin 2026. Cynlluniwch ymlaen llaw os oes angen i chi ymweld.

Bydd pob safle arall yn aros ar agor fel arfer, yn unol â'u horiau agor arferol.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir ac yn diolch am eich dealltwriaeth.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn casglu gwastraff yn rheolaidd o bob eiddo domestig yn y Sir.

Rhoi gwastraff cartref allan i’w gasglu

Mae gwybodaeth am y Gwasanaeth Casglu Gwastraff i’w gael drwy Fy Nghyfrif hefyd.

Gallwch gofrestri neu fewngofnodi drwy’r dudalen Fy Nghyfrif

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd. Diolch.

Gwastraff sy’n gysylltiedig â salwch heintus

Rhowch eich gwastraff personol megis hancesi papur, cadachau glanhau tafladwy, gorchuddion wyneb tafladwy, menig tafladwy ac unrhyw gyfarpar diogelu personol (PPE) arall yn y gwastraff na ellir ei ailgylchu (“bag du”). Clymwch fag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff na ellir ei ailgylchu (bag du).

Pa ddiwrnodau fydd fy nghasgliadau i?

Gallwch ddefnyddio ein Chwilio Cod Post

Chwilio Cod Post