Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Diolch.

Os na chaiff eich gwastraff ei gasglu fel y trefnwyd, cyflwynwch ef eto ar eich diwrnod casglu nesaf.  Lle nad ydym wedi gallu casglu gwastraff gweddilliol, byddwn yn rhannu gwybodaeth isod gyda chyngor penodol am unrhyw newidiadau dros dro i'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol.

Dyddiad Ardal wedi’i effeithio Math o wastraff sydd wedi’i effeithio Rheswm Cyngor
2il Chwefror 2026 Heol y Dŵr Cei Newydd
llwybr 162
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Ffordd ar gau Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Llun 9fed Chwefror 2026

 

Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf