Galluogi Gofal drwy Dechnoleg (TEC)
Beth yw TEC?
Galluogi Gofal drwy dechnoleg yw’r defnydd a wneir o dechnoleg er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal i bobl yn eu cartrefi eu hun, gan gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel. Enghraifft o hyn yw cael ‘lifeline’ sef botwm y gellir ei wasgu i alw am gymorth caiff ei wisgo fel pendant.
Manteision
Dyma rai o fanteision Galluogi Gofal drwy dechnoleg:
- Cynyddu annibyniaeth a hyder
- Rheoli / lleihau risg
- Tawelu meddwl aelodau’r teulu sy’n ofalwyr
- Lleihau’r angen am becyn gofal
- Arbed mynediad i’r ysbyty
- Cefnogi’r gallu i gleifion gael eu rhyddhau o’r ysbyty’n gynnar
- Oedi neu atal yr angen am ofal preswyl
Telegofal yng Ngheredigion
Mae ein dull o sicrhau cefnogaeth i’r person yn y canol yn ymwneud â gweithio gyda phawb mewn cylch o gefnogaeth – teulu a ffrindiau, gweithwyr cefnogi, cyd-weithwyr Gofal Integredig Cymunedol a Swyddogion Iechyd Proffesiynol – er mwyn sicrhau y gweithredir y camau gorau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Sut mae hyn yn gweithio?
Bydd Telegofal yn eich cysylltu â chanolfan fonitro os bydd unrhyw beth yn mynd o chwith. Yn syml iawn bydd gwasgu’r botwm ar eich pendant neu’r uned ymateb yn eich cysylltu yn uniongyrchol â’n tîm cyfeillgar. Byddant yn medru siarad â chi drwy’r uchelseinydd ar yr uned. Mae’n bosib i chi hefyd gael cyfarpar sy’n gweithredu’r larwm yn awtomatig os nad yw’n bosib i chi wneud hynny eich hun. Bydd y tîm yn gweithredu ar unwaith i’ch cynorthwyo, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gall hyn gynnwys cysylltu ag aelod o’r teulu, gofalwr neu’r gwasanaethau brys. Mae hyn yn golygu y gall cwsmeriaid ar draws Ceredigion deimlo’n hyderus, yn ddiogel ac yn hapus yn eu cartrefi.
Eitemau Cynorthwyol / Offer Telegofal Eraill
Gall Telegofal yng Ngheredigion fod yn fwy na gwasgu larwm. Mae’n bosib y bydd gan rai bobl anghenion penodol iawn lle y gall offer arall sy’n gweithio ar y cyd â’r uned larwm fedru bod yn ddefnyddiol iawn.
Bydd yr Hwb Clyfar yn cysylltu ag ystod eang o synwyryddion o amgylch y cartref gan gysylltu’n uniongyrchol â’r ganolfan fonitro. Enghreifftiau o hyn bydd gwres, carbon monocsid, datgelu cwymp, drws a thân a mwg.
Faint y mae Telegofal Ceredigion yn ei gostio?
Telegofal Syflaenol
£52 un taliad ar gyfer gosod y cyfarpar yna £4.30 yr wythnos.
Bydd y Cynllun yma’n cynnwys:
- Llinell bywyd / Lifeline
- Pendant (ag ystod safonol o oddeutu 50m)
- Strapen ar y garddwrn neu pendant o amgylch y gwddf
- Monitro 24/7
- Gwirio’r System yn flynyddol
- Gallwch gynnwys pendant ychwanegol i’r cynllun hwn sy’n golygu y gall dau unigolyn elwa o’r pecyn yma
- Dim contract penodol
- Dim ffioedd cyfarpar
Pecyn Technoleg Cynorthwyol
£52 un taliad ar gyfer gosod y cyfarpar yna £7.90 yr wythnos.
Bydd y cynllun yma’n cynnwys popeth sy’n gynwysedig yn y Pecyn Gofal Sylfaenol a synwyryddion a synwyryddion cyffwrdd â botwm fydd yn eich cefnogi yn eich cartref.