Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Llongyfarchiadau i chi ar enedigaeth eich babi. Mae hwn yn gyfnod arbennig iawn i chi a’ch teulu.

Cofiwch fod yn rhaid i chi drefnu apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth o fewn 42 diwrnod i'ch plentyn gael ei eni.

Rydyn ni yma i helpu i wneud y broses mor hawdd â phosibl. Felly, os gafodd eich babi ei eni yng Ngheredigion, ffoniwch ni ar 01970 633580 i drefnu apwyntiad cofrestru genedigaeth.

Fel arall, cwblhewch y ffurflen isod i ymholi am apwyntiad cofrestru genedigaeth.

Ymholi am Apwyntiad Cofrestru Genedigaeth

  • Os oedd y rhieni yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar ddyddiad geni’r plentyn, gall naill riant neu’r llall gofrestru’r enedigaeth
  • Os nad oedd y rhieni yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar ddyddiad geni'r plentyn, rhaid i'r tad neu'r ail riant benywaidd fynychu'r apwyntiad gyda'r fam er mwyn cynnwys manylion y ddau riant ar y cofnod genedigaeth. Os yw'r fam yn mynychu'r apwyntiad ar ei phen ei hun, dim ond ei manylion hi fydd yn cael eu cofnodi ar y cofnod genedigaeth
  • Os oes dau riant benywaidd nad oeddent yn briod neu mewn partneriaeth sifil, rhaid i'r ddau fynychu'r apwyntiad a bodloni'r gofynion cyfreithiol o dan y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg er mwyn cynnwys manylion yr ail riant benywaidd ar y cofnod genedigaeth. Os yw'r fam yn mynychu'r apwyntiad ar ei phen ei hun, dim ond ei manylion fydd yn cael eu cofnodi ar y cofnod genedigaeth

Prawf o hunaniaeth

Pan fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cofrestru genedigaeth, mae'n rhaid i chi ddod â phrawf o'ch hunaniaeth.

Ni fyddwn yn gallu cwblhau'r cofrestriad os na fyddwch yn darparu dogfen adnabod dderbyniol.

Mae enghreifftiau o ddogfennau adnabod derbyniol yn cynnwys:

  • Pasbort dilys
  • Trwydded yrru'r DU
  • Tystysgrif geni'r DU
  • Trwydded breswylio fiometrig neu ddogfen fewnfudo fiometrig y DU

Os nad oes gennych unrhyw un o'r dogfennau a restrir uchod, cysylltwch â'n swyddfa cyn eich apwyntiad fel y gallwn drafod pa fathau eraill o ddogfennau adnabod y gellir eu derbyn.

Dogfennau eraill i'w dod gyda chi

Er mwyn helpu i sicrhau bod cofnod geni’r plentyn yn cael ei gofrestru'n gywir, byddai'n ddefnyddiol pe gallech hefyd ddod â:

  • Y ‘Llyfr Coch’ neu unrhyw ddogfennaeth geni a ddarparwyd gan yr Ysbyty neu’r fydwraig
  • Prawf o'ch cyfeiriad presennol (fel trwydded yrru neu bil treth y cyngor)
  • Prawf o unrhyw enw neu enwau blaenorol (er enghraifft gweithred newid enw)
  • Eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil (os yw'n berthnasol)

Yn ystod yr apwyntiad cofrestru, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi gadarnhau'r wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a man geni’r plentyn
  • Enw a chyfenw llawn y plentyn
  • Enw llawn a chyfenw‘r rhiant/rhieni (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
  • Cyfeiriad a swydd y rhiant/rhieni
  • Dyddiad a man geni'r rhiant/rhieni
  • Os yw'r rhieni'n briod neu'n bartneriaid sifil, dyddiad priodas/partneriaeth sifil a chyfenw morwynol y fam

Bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi ddarllen a gwirio'r holl wybodaeth a ddarparwyd yn ofalus. Yna gofynnir i chi wneud datganiad bod yr wybodaeth a roddwyd yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred. Mae'n hanfodol bod yr holl fanylion yn gywir, gan fod y cofnod cofrestru yn gofnod cyfreithiol.

Os canfyddir unrhyw wallau ar ôl i'r cofrestriad gael ei gwblhau, bydd gofyn i chi wneud cais am gywiriad ffurfiol, a bydd tâl yn cael ei godi am hyn.

Os cafodd eich babi ei eni yng Ngheredigion, ar ddiwedd yr apwyntiad cofrestru, byddwch yn gallu prynu tystysgrifau geni am ffi o £12.50 y dystysgrif.

Bydd tystysgrif geni safonol (neu lawn) yn cynnwys enw, dyddiad a man geni'r plentyn ynghyd â manylion y rhiant/rhieni.

Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i Geredigion, ar ôl yr apwyntiad, bydd y datganiad geni yn cael ei anfon i'r ardal lle digwyddodd yr enedigaeth. Mae'r swyddfa honno yn gyfrifol am gwblhau'r cofrestriad a chyhoeddi tystysgrifau a dogfennau cysylltiedig eraill. Felly, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi unrhyw ddogfennau i chi.