Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Tai Fforddiadwy - Tai Gostyngiad ar Werth

Beth yw Tŷ Gostyngiad ar Werth?

Mae Eiddo Gostyngiad ar Werth yn dai fforddiadwy a ddarperir drwy'r system gynllunio. Fe'u gwerthir am bris is na gwerth y farchnad i helpu aelwydydd cymwys i gael mynediad at berchentyaeth.

Mae'r gostyngiad yn aros ynghlwm wrth yr eiddo yn barhaol, gan sicrhau bod y cartref yn parhau'n fforddiadwy i brynwyr yn y dyfodol.

Pwyntiau Allweddol

  • Fel arfer caiff ei werthu am 30% yn is na'i werth ar y farchnad
  • Ar gael i breswylwyr lleol cymwys, gweithwyr allweddol, gofalwyr neu dderbynwyr gofal
  • Mae'r gostyngiad yn aros ynghlwm wrth yr eiddo am ei oes gyfan
  • Rhaid i brynwyr yn y dyfodol hefyd fodloni'r meini prawf cymhwysedd
  • Mae angen prisiad annibynnol bob tro y gwerthir yr eiddo
  • Rhaid i'r Cyngor gymeradwyo'r uchafswm pris gwerthu cyn y gellir cwblhau gwerthiant

 

A allaf wneud cais?

Gallech fod yn gymwys os:

  • Nid ydych yn gallu cael morgais sy'n fwy na 10% yn uwch na'r pris prynu â gostyngiad
  • Rydych yn bodloni'r gofyniad person lleol, gweithiwr allweddol, gofalwr neu dderbynnydd gofal
  • Nid ydych yn berchen ar unrhyw gartref arall, yn gyfan neu'n rhannol, a bydd y cartref fforddiadwy yn brif gartref i chi.

Rhaid i chi fodloni pob un o'r tri maen prawf cymhwysedd a eglurir isod.

 

Gofynion Cymhwysedd

1. Cymhwysedd Ariannol

Rhaid i chi:

  • Fod yn methu â chael morgais sy'n fwy na 10% yn uwch na'r pris prynu â gostyngiad
  • Er enghraifft: Os yw'r pris prynu â gostyngiad yn £100,000, rhaid eich bod chi methu â chael morgais o £110,000 neu'n fwy.
  • Darparu tystiolaeth o holl incwm yr aelwyd, gan gynnwys cyflogau, pensiynau a budd-daliadau
  • Gallu darparu unrhyw flaendal sy'n ofynnol gan eich benthyciwr morgais
  • Darparu tystiolaeth o sut y caiff unrhyw falans ei ariannu os yw eich morgais yn llai na 65% o'r pris prynu
  • Darparu tystiolaeth ariannol ategol gyda'ch cais os yw ar gael. Gallwch gyflwyno eich cais cyn bod gennych bob dogfen, ond rhaid darparu unrhyw dystiolaeth sy'n weddill cyn gynted â phosibl. Ni allwn asesu eich cais yn llawn nes bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi'i derbyn

Tystiolaeth Ategol

➡ Dogfennau sydd eu hangen i brofi Cymhwysedd Ariannol

 

2. Person Lleol, Gweithiwr Allweddol, Gofalwr neu Dderbynnydd Gofal

Rhaid i chi fodloni un o'r meini prawf canlynol.

Person Lleol

Rydych wedi byw yng Ngheredigion, neu mewn ardal Cyngor Tref neu Gymuned gyfagos, am gyfnod di-dor o o leiaf 5 mlynedd ar unrhyw adeg yn ystod eich oes.

Mae rhai tai hŷn yn gofyn am 10 mlynedd o breswylio yng Ngheredigion yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Gofyniad Gofalwr neu Dderbynnydd Gofal

Mae angen i chi fyw yng Ngheredigion er mwyn:

  • Darparu gofal rheolaidd a sylweddol i berthynas agos; neu
  • Dderbyn gofal rheolaidd a sylweddol gan berthynas agos.

Rhaid i'r perthynas agos fodloni'r gofyniad Person Lleol ei hun, a rhaid i'w dŷ fod yn anaddas (naill ai fel y mae neu hyd yn oed gydag estyniad) i letya'r aelwyd gyfunol.

Gweithiwr Allweddol

Rhaid i chi:

  • Fod yn gweithio yng Ngheredigion neu fod ar fin dechrau gweithio yng Ngheredigion
  • Dal swydd barhaol
  • Gweithio o leiaf 35 awr yr wythnos

Gall galwedigaethau cymwys gynnwys:

  • Athrawon
  • Darlithwyr addysg bellach
  • Nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol medrus y GIG
  • Swyddogion yr Heddlu
  • Gweithwyr y Gwasanaeth Prawf
  • Diffoddwyr tân
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Seicolegwyr addysgol
  • Therapyddion galwedigaethol a gyflogir gan yr awdurdod lleol

Gall galwedigaethau eraill fod yn gymwys os ydynt yn darparu gwasanaeth hanfodol ac os yw recriwtio yng Ngheredigion wedi profi'n anodd.

Tystiolaeth Ategol

➡ Dogfennau sydd eu hangen i brofi Cysylltiad Lleol, Statws Gweithiwr Allweddol neu Ofalwr

 

3. Gofyniad Preswylfa Sengl

Rhaid i chi:

  • Fyw yn y tŷ fel eich unig gartref neu'ch prif gartref
  • Peidio â bod yn berchen ar unrhyw dŷ preswyl arall

Tystiolaeth Ategol

➡ Dogfennau sydd eu hangen i brofi Preswylfa Sengl

 

Ceisiadau ar y Cyd

Ar gyfer ceisiadau ar y cyd:

  • Dim ond un ymgeisydd sydd angen bodloni'r gofyniad person lleol, gweithiwr allweddol, gofalwr neu dderbynnydd gofal
  • Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion Cymhwysedd Ariannol a Phreswylfa Sengl

Pwysig: Rhaid i unrhyw un a fydd wedi'i enwi ar weithred drosglwyddo'r tŷ fodloni'r gofynion Cymhwysedd Ariannol a Phreswylfa Sengl, ni waeth os ef neu hi yw'r ymgeisydd sy'n bodloni'r maen prawf person lleol, gweithiwr allweddol, gofalwr neu dderbynnydd gofal.

Heb gael eich holl dystiolaeth eto? 

Gallwch barhau i gyflwyno eich cais a darparu unrhyw ddogfennau sy'n weddill yn nes ymlaen. Ni ellir asesu ceisiadau'n llawn nes bod yr holl ddogfennau ategol gofynnol wedi'u derbyn.