Skip to main content

Ceredigion County Council website

Llwybrau Pumlumon

Deotholiad o lwybrau i fyny fynydd talaf Ceredigion, Pumlumon.

Cadwyn o fynyddoedd mwyaf Ceredigion yw Pumlumon (sy’n golygu ‘pum brig’ neu ‘pum copa’). Yn swatio ym Mynyddoedd Cambria, mae Pumlumon yn cynnig tirweddau agored, anialwch go iawn, a hanesion cudd.

Yn sefyll ar uchder o 752m (2,467tr) uwch lefel y môr, mae Pumlumon Fawr yn cynnig golygfeydd panoramig godidog o Fynyddoedd y Preseli, Bae Ceredigion, Cadair Idris, Eryri, a Phen y Fan.

Gyda chyfoeth o hanes yn aros i gael ei archwilio, gallwch ddod o hyd i rai o'r llwybrau cerdded mwyaf poblogaidd yma: Cerdded i gopa Pumlumon (Plynlumon) - Darganfod Ceredigion

Sylwch: Mae Pumlumon yn adnabyddus am ei dirweddau gwyllt garw, anghyfannedd, a gall y tywydd newid yn gyflym. Cariwch gymhorthion mordwyo gyda chi bob amser a gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol. Cariwch fwyd a dŵr a byddwch yn barod i droi yn ôl os bydd gwelededd yn mynd yn wael neu os daw amodau'n beryglus.

Llwybr Caradog Jones

Llwybr Caradog Jones

Pellter 6.2 KM / 3.8 milltir

Llwybr Caradog Jones
Llwybr Chris Bonnington

Llwybr Chris Bonnington

Pellter 8.5 KM / 5.2 milltir

Llwybr Chris Bonnington
Llwybr George Burrow

Llwybr George Burrow

Pellter 12.8 KM / 7.9 milltir

Llwybr George Burrow
Llwybr Moch

Llwybr Moch

Pellter 10.6 KM / 6.5 milltir

Llwybr Moch