Gostyngiadau ac Eithriadau
Mae Treth y Cyngor yn daladwy ar gyfer y rhan fwyaf o anheddau. Y mae yna, fodd bynnag, rai eithriadau lle na fydd yn rhaid talu Treth y Cyngor ar eu cyfer.
| Dosbarth | Crynodeb |
|---|---|
| A. | Annedd heb ei dodrefnu:- a) sydd angen neu sy'n cael, neu wedi cael, gwaith atgyweirio mawr i'w gwneud yn addas i fyw ynddi, neu b) sy’n cael ei newid neu wedi cael ei newid yn strwythurol. Bydd yr esemptiad yn berthnasol i'r byrraf o'r canlynol:- - Cyfnod o 12 mis - Cyfnod sy'n dechrau'r diwrnod y daeth yr annedd yn ddi-ddodrefn ac yn dod i ben 6 mis ar ôl i'r gwaith atgyweirio mawr neu'r newid strwythurol gael ei gwblhau'n sylweddol. - O 01af Ebrill 2026 ymlaen, mae cyfnod esemptio 12 mis arall yn berthnasol ar newid perchnogaeth, gyda gwerthiant yr eiddo wedi'i ddangos trwy ddogfennau trosglwyddo cyfreithiol neu gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF. |
| B. | Annedd sy'n eiddo i Elusen sydd heb ei meddiannu am lai na 6 mis. |
| C. | Annedd sy'n wag ac yn sylweddol heb ddodrefn ac wedi bod felly am gyfnod o lai na 6 mis, neu annedd sydd wrthi'n cael ei chodi neu y mae’r gwaith o’i chodi wedi'i gwblhau i raddau helaeth ond sydd wedi aros yn wag ac heb ddodrefn am gyfnod o lai na 6 mis ers ei chwblhau. - O 01 Ebrill 2026 mae cyfnod esemptio 6 mis arall yn berthnasol ar newid perchnogaeth, gyda gwerthiant yr eiddo wedi’i ddangos trwy ddogfennau trosglwyddo cyfreithiol neu gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF. |
| D. | Annedd sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person atebol wedi'i gadw yn y carchar. |
| E. | Annedd sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person atebol yn glaf hirdymor mewn ysbyty neu gartref gofal. |
| F. | Annedd sydd heb ei meddiannu lle mae'r parti atebol yn gynrychiolydd personol y cyn-feddiannydd ymadawedig. Mae'r esemptiad wedi'i gyfyngu am gyfnod o hyd at ddwy flynedd o ddyddiad y farwolaeth, neu nes bod profiant neu lythyrau gweinyddu wedi'u rhoi, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf. Unwaith y bydd profiant neu lythyrau gweinyddu wedi'u rhoi, gall yr esemptiad barhau am 12 mis arall, neu nes bod yr eiddo wedi'i feddiannu neu ei werthu, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf. |
| G. | Annedd sydd wedi'i gwahardd rhag ei meddiannu yn ôl y gyfraith. |
| H. | Annedd sydd heb ei meddiannu ac sydd ar gael i'w meddiannu gan weinidog crefydd. - O 01af Ebrill 2026 mae'r esemptiad yn berthnasol am gyfnod parhaus o hyd at flwyddyn ers i'r eiddo gael ei adael yn wag. |
| I. | Annedd sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person atebol yn cael gofal yn rhywle arall. |
| J. | Annedd sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person atebol yn darparu gofal yn rhywle arall. |
| K. | Annedd sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person atebol yn fyfyriwr sy'n byw yn rhywle arall. |
| L. | Annedd sydd heb ei meddiannu oherwydd ei bod wedi'i hailfeddiannu gan y morgeisai. |
| M. | Neuadd Breswyl Myfyrwyr. |
| N. | Annedd sy'n cael ei meddiannu'n gyfan gwbl gan fyfyrwyr. Bydd yr esemptiad yn dal i fod yn berthnasol lle mae priod myfyriwr nad yw'n Brydeinig yn byw os yw'r person hwnnw wedi'i atal, gan delerau ei fisa mynediad i'r DU, rhag cymryd cyflogaeth neu hawlio budd-daliadau. |
| O. | Annedd sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn. |
| P. | Anheddau sy'n cael eu meddiannu gan aelodau o luoedd ar ymweliad (o fewn ystyr Rhan I o Ddeddf Lluoedd Ar Ymweliad 1952). |
| Q. | Annedd sydd heb ei meddiannu a lle mae'r person atebol yn ymddiriedolwr mewn methdaliad. |
| R. | Annedd sy'n cynnwys llain neu angorfa nad yw'n cael ei feddiannu gan garafán na chwch. |
| S. | Annedd sy'n cael ei meddiannu gan berson neu bersonau o dan 18 oed yn unig. |
| T. | Annedd wag sy'n rhan o un eiddo sy'n cynnwys annedd arall ac na ellir ei gosod ar wahân heb dorri rheolaeth gynllunio. |
| U. | Annedd sy'n cael ei meddiannu gan bobl ag amhariad gwybyddol sylweddol yn unig neu sydd wedi'i meddiannu gan bobl ag amhariad gwybyddol sylweddol ynghyd ag un neu ragor o fyfyrwyr. |
| V. | Annedd y mae'r person atebol mewn perthynas â hi yn Ddiplomydd neu'n gweithio i rai Sefydliadau Rhyngwladol. |
| W. | Anecs neu ran hunangynhwysol debyg o eiddo a feddiannir gan berthynas oedrannus neu anabl i'r preswylwyr sy'n byw yn rhan arall yr eiddo. |
| X. | Annedd gydag un neu ragor o bobl sy’n gadael gofal (24 oed neu'n iau), a pherson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a lle mae pob preswylydd nail ai’n berson sy’n gadael gofal, yn fyfyriwr neu rywun ag anawsterau dysgu/anhwylder iechyd meddwl. Mae'r esemptiad mewn grym o 1af Ebrill 2019. |
| Y | Annedd sy'n lloches a ddarperir gan awdurdod lleol neu a gomisiynir ganddo ac a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer llety dros dro a llety brys i bobl sydd wedi bod yn destun unrhyw fath o gamdriniaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd neu drais rhywiol. - Mae'r esemptiad hwn mewn grym o 1af Ebrill 2026 |
Disgownt
Mae’r adran isod yn rhoi rhyw syniad i chi o’r mathau o ostyngiadau sy’n bosibl. Sylwer nad yw’r amodau cymhwysedd llawn i’w gweld yma. Os ydych yn credu efallai fod gennych hawl i ddisgownt yna dylech gyflwyno cais i’r Cyfarwyddwr Cyllid.
Os mai un oedolyn yn unig sy’n byw yn yr annedd caniateir gostyngiad o 25%. Gall rhai oedolion sy’n byw yn yr annedd gael eu ‘diystyru’ at ddibenion y gostyngiad. Mewn geiriau eraill, ni chânt eu cyfri’n aelodau o’r cartref at ddibenion hawlio gostyngiad yn Nhreth y Cyngor.
Dyma’r grwpiau o oedolion a gaiff eu diystyru:
- Myfyrwyr llawn amser, nyrsys sy’n fyfyrwyr; prentisiaid;
- Cleifion preswyl mewn ysbyty;
- Pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal;
- Pobl sydd wedi’u hardystio’n feddygol am Amhariad Gwybyddol Sylweddol;
- Pobl sy’n aros mewn rhai hosteli neu lochesi nos arbennig;
- Pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn neu newydd adael yr ysgol;
- Pobl sy’n gofalu am rywun sydd ag anabledd ac nad yw’n wr, yn wraig, yn bartner nac yn blentyn dan 18 oed;
- Aelodau o luoedd sydd ar ymweliad a rhai sefydliadau rhyngwladol;
- Aelodau o gymunedau crefyddol (mynaich a lleianod);
- Carcharorion (ac eithrio’r rhai a garcharwyd am beidio â thalu Treth y Cyngor neu ddirwy); Gellir cael gostyngiad o dan yr amgylchiadau isod:-
- Lle bo pawb ond un oedolyn sy’n byw yn yr annedd yn cael eu diystyru, neu
- Lle bo pob oedolyn sy’n byw yn yr annedd yn cael eu diystyru;
- O 1 Ebrill 2019, pobl sy’n gadael gofal - Mae person sy’n gadael gofal yn 24 oed neu’n iau ac yn berson ifanc categori 3 fel y’i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Os yw eich bil yn dangos bod gostyngiad wedi’i ganiatáu rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod sy’n eich bilio os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar eich hawliau. Os na wnewch hynny, allwch gael eich cosbi.
Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2003 bwerau dewisol newydd ar gyfer y Cyngor mewn cyswllt â disgownt treth y cyngor. Mae’r Ddeddf yn rhoi rhagor o ryddid i gynghorau i benderfynu neu amrywio disgownt ac eithriadau mewn cyswllt â threth y cyngor er mwyn rhoi ystyriaeth i broblemau lleol megis gorlifo a thrychinebau naturiol eraill.