Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyflwyno hunaniaeth weledol newydd
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyflwyno hunaniaeth weledol newydd ar gyfer y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol sy'n cwmpasu Sir Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.

Mae'r gwasanaeth yn gweithio i ddod o hyd i gartrefi diogel, cariadus a pharhaol i blant na allant fyw gyda'u teuluoedd geni, a hynny gan gefnogi pobl sydd wedi'u mabwysiadu, teuluoedd mabwysiadu a theuluoedd geni trwy gydol y daith fabwysiadu.
Mae'r hunaniaeth weledol newydd yn adlewyrchu'r cysylltiadau sydd wrth wraidd mabwysiadu. Gan arddel y themâu perthyn, cymorth ac undod, mae'n cynrychioli'r bobl y mae mabwysiadu'n cyffwrdd â'u bywydau a'r perthnasoedd sy'n helpu plant i ffynnu.
Mae hefyd yn adlewyrchu'r bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru o dan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Er bod yr hunaniaeth weledol wedi newid, mae pwrpas y gwasanaeth yn aros yr un fath. Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i ddarparu cymorth o safon uchel, sy'n rhoi plant yn y canol ac sy'n gweithio gyda theuluoedd ledled y rhanbarth i ddod o hyd i gartrefi diogel, sefydlog a chariadus i blant.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Lesiant Gydol Oes sy'n cynnwys Mabwysiadu: "Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i ffynnu mewn cartref cariadus a sefydlog. Mae’r hunaniaeth weledol newydd hon yn adlewyrchu’r gofal, y gefnogaeth a’r ymdeimlad o berthyn y gall mabwysiadu eu cynnig. Yma yng Ngheredigion, rydym yn falch o gydweithio â’n partneriaid rhanbarthol i gefnogi plant, mabwysiadwyr a theuluoedd, ac i helpu i greu dyfodol cadarnhaol drwy fabwysiadu."
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Mae gan lawer o bobl eisoes y rhinweddau sydd eu hangen i ddarparu cartref cariadus a sefydlog i blentyn, ac mae cymorth ar gael ar bob cam o'r daith fabwysiadu.
Ochr yn ochr â'r hunaniaeth weledol newydd, mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi lansio gwefan newydd, sy'n darparu gwybodaeth am fabwysiadu, y cymorth sydd ar gael a sut i gymryd y cam cyntaf tuag at fabwysiadu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
24/09/2026