Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ysgol Gyfun Penweddig yn troi'n greadigol

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Penweddig wedi bod yn brysur yn dylunio a chreu murlun celf lliwgar i fywiogi gofod awyr agored yr ysgol, fel rhan o Brosiect Celf a Arweinir gan Bobl Ifanc, a chydweithio rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a'r ysgol.

Mae pobl ifanc wedi arwain pob cam o’r prosiect, o ysgrifennu’r cais am gyllid, rhannu syniadau, creu dyluniadau, a gweithio gydag artist proffesiynol i greu murlun hwyliog i staff a disgyblion ei fwynhau.

Mae’r murlun yn Ysgol Penweddig yn cynrychioli ardaloedd o Aberystwyth fel tirnodau lleol, traddodiadau Cymreig, a’r hyn y mae pobl ifanc yn ei fwynhau am eu cymuned leol.

Gyda chefnogaeth gan Weithwyr Ieuenctid yr Ysgol, cafodd y disgyblion gyfle i rannu eu syniadau a’u dyluniadau, a gafodd eu defnyddio mewn un murlun mawr gan yr artist lleol, Megan Elinor. Cynhaliwyd y gweithdai dros ddau ddiwrnod, a chafodd disgyblion Blwyddyn 9 gyfle i beintio a gorffen y murlun terfynol.

Ariannwyd y prosiect gan Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion.

Dywedodd Amy Jenkins, Gweithwraig Ieuenctid Ysgol Penweddig: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llawer o hwyl, gyda phobl ifanc yn chwarae rhan allweddol drwyddo i gyd. Llwyddodd pobl ifanc i dderbyn cyllid ar ei gyfer a chreu’r darn terfynol ar ôl ymgynghori â’r artist. Roedd y prosiect yn gyfle gwych i ddisgyblion gymryd rhan mewn rhywbeth creadigol a fydd yn cael ei arddangos i bawb yn yr ysgol ei fwynhau. Hoffem ddiolch i Megan Elinor am brosiect ardderchog, a CAVO am ei ariannu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes ac Ysgolion: "Mae'n braf gweld pobl ifanc yn cael cyfle i fod yn greadigol dan ofal yr artist lleol, Megan Elinor. Da iawn i bawb a fu'n rhan, mae'r murlun yn hyfryd, ac wrth gwrs diolch yn fawr iawn i CAVO am eu cyllid i alluogi'r bobl ifanc yma gymryd rhan."

Cofiwch ddilyn Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y gweithgareddau diweddaraf:

  • Facebook: @Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service
  • Instagram: @giceredigionys
  • X: @GICeredigionYS