
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion Ceredigion yn derbyn canmoliaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu canfyddiadau’r gwiriad gwella diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy’n tynnu sylw at y cynnydd cadarnhaol sydd wedi’i wneud gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ers yr asesiad diwethaf yn 2023.
Yn dilyn yr arolygiad ym mis Mai 2025, nododd AGC fod y Cyngor yn dangos arweinyddiaeth glir, gweledigaeth gadarnhaol, ac ymrwymiad i wella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod Ceredigion wedi gwneud “cynnydd cadarnhaol mewn meysydd allweddol” ac yn gweithio’n adeiladol i wella profiadau pobl.
Un o’r prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd hwn yw gweithredu’r model Llesiant Gydol Oes (TAW) sy’n rhoi pwyslais ar atal, ymyrraeth gynnar, a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol. Mae’r model yn uno gwasanaethau ar draws oedrannau ac yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir. Cafodd y model ei weithredu o fewn y gyllideb ar gyfer 2024/25, gan ddangos ei gynaliadwyedd a’i effeithiolrwydd.
Ymhlith y llwyddiannau pellach mae:
- Safonau Cartrefi Gofal Preswyl: Mae pob cartref gofal preswyl sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd wedi’u graddio’n ‘Dda’ neu’n ‘Rhagorol’, gan adlewyrchu’r safonau uchel o ofal sy’n cael eu darparu ledled y sir.
- Cryfhau’r Gweithlu: Mae chwech o weithwyr cymdeithasol newydd wedi ymuno â’r tîm Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, gan gryfhau capasiti a sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn parhau.
Dywedodd Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Ceredigion dros Lesiant Gydol Oes: "Rydym yn plês iawn fod AGC wedi cydnabod y cynnydd rydym wedi’i wneud. Mae’r model Llesiant Gydol Oes wedi newid y ffordd rydym yn cefnogi pobl, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n dyst i ymroddiad ein timau a’r effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl bob dydd."
Mae’r Cyngor yn parhau’n ymrwymedig i adeiladu ar y momentwm hwn, gan wrando, dysgu a gwella gwasanaethau i bobl Ceredigion.
Cewch ddarllen yr adroddiad llawn gan AGC yma:
https://www.arolygiaethgofal.cymru/arolygiaeth-gofal-cymru-yn-cwblhau-gwiriad-gwella-o-wasanaethau-cymdeithasol-i-oedolion-cyngor-sir