Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron

Bydd y Neuadd Chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron yn cau dros dro fis nesa er mwyn gwella’r cyfleuster.

Bydd y gwaith, sy’n cynnwys buddsoddiad o £230,000, yn cael ei wneud rhwng 18 Awst a 20 Hydref 2025. Bydd llawr newydd yn cael ei osod a bydd y Neuadd Chwaraeon yn cael ei haddurno. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn i’r cyfleusterau hygyrch megis toiledau a chawodydd.
 
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar yr Ystafell Ffitrwydd yn y ganolfan a bydd yn parhau i fod ar agor fel arfer.
 
Mae’r gwaith wedi’i drefnu er mwyn sicrhau bod y Neuadd Chwaraeon yn gallu agor ar gyfer misoedd yr Hydref a’r Gaeaf sef y cyfnod prysuraf.
 
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid: “Mae Canolfan Hamdden Aberaeron yn darparu adnoddau ar gyfer pobl a sefydliadau ar draws canolbarth Ceredigion. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth chwaraeon a hamdden nid yn unig yn parhau, ond yn gwella i bob un o’i ddefnyddwyr. Does byth amser delfrydol i gau'r neuadd chwaraeon ond er mwyn gwella'r cyfleusterau a gynigir, mae angen cau hon dros dro. Gobeithio na fydd yn peri gormod o anghyfleustra i ddefnyddwyr."
 
Cefnogir y gwaith gan fuddsoddiad Gyngor Sir Ceredigion; Llywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru; a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, a weinyddir ac a gefnogir gan Gynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
 
Mae'r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra yn ystod y cyfnod hwn ac yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch parodrwydd wrth i ni wella eich profiad yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

Bydd diweddariadau'n cael eu postio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor: @CeredigionActif neu ar ein tudalen Facebook penodol drwy chwilio am Canolfan Hamdden Aberaeron.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt (Clic) drwy ffonio 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.