Skip to main content

Ceredigion County Council website

Galw am farn trigolion ar newidiadau i Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor yn 2024 i gau un o'n Safleoedd Gwastraff Cartref ac adolygu'r oriau agor ar y safleoedd eraill, mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar gynigion ac yn gofyn am eich barn.

Mae'r diwydiant gwastraff yn newid yn gyson, fel y mae deddfwriaeth gwastraff. Er mwyn i Geredigion ddiwallu'r anghenion presennol, ac i fod yn fwy parod i ddiwallu'r anghenion yn y dyfodol, efallai y bydd angen gwella'r cyfleusterau ar Safleoedd Gwastraff Cartref y sir, ac efallai y bydd angen ymestyn y safleoedd i allu darparu’r gwelliannau o'r fath. Nid oes unrhyw un o'r safleoedd yn ddelfrydol ar gyfer diwallu anghenion yn y dyfodol, ac mae gan bob un o'r pedwar safle gyfleoedd cyfyngedig ar gyfer ehangu.

Bydd gwaith yn dechrau cyn hir i ystyried opsiynau ar gyfer gwasanaethau gwastraff y Cyngor yn y dyfodol, gan gynnwys safleoedd gwastraff cartref. Yn y cyfamser, mae'r Cyngor wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i reoli ei gyllideb sydd ar gael ac osgoi cynnydd uwch yn y Dreth Gyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Gyda phedwar safle yn cael eu darparu yn y sir ar hyn o bryd, mae gan Geredigion un o'r cymarebau uchaf o Safleoedd Gwastraff Cartref fesul pen yng Nghymru, ac mae'r pwysau parhaus ar gyllidebau'r Cyngor yn golygu nad yw'n bosibl cadw pob un o'r pedwar Safle Gwastraff Cartref ar agor bellach. Gellir gwaredu'r rhan fwyaf o'r deunyddiau a dderbynnir yn y Safleoedd Gwastraff Cartref yn gyfreithlon ac yn ddiogel mewn ffyrdd eraill".

"Mae'r Cyngor wedi ystyried pedwar opsiwn ac mae'n credu y byddai atal y defnydd o un safle yn cael yr effaith leiaf ar drigolion Ceredigion; fodd bynnag, rydym yn croesawu barn pobl ar hyn. Rydym yn bwriadu cadw'r oriau agor yn y Safleoedd Gwastraff Cartref eraill yn ddigyfnewid ac yn croesawu barn pobl ar y cynnig hwn hefyd".

"Nid yw newid byth yn hawdd, ond mae gennym gyfrifoldeb i gydbwyso darpariaeth gwasanaeth a chostau wrth i ni adolygu anghenion hirdymor y gwasanaeth".

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn i drigolion pa mor aml maen nhw'n defnyddio eu Safle Gwastraff Cartref presennol a pha safle gwastraff cartref maent yn ei ddefnyddio. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cau ar 04 Awst 2025 a gellir ei gyrchu o'r ddolen yma.

I gael rhagor o wybodaeth, gall preswylwyr gysylltu â ni drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.

I dderbyn y wybodaeth mewn fformatau eraill, fel print bras neu gyda chefndir lliw, cysylltwch â 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Gellir casglu copïau papur hefyd o Lyfrgelloedd neu Ganolfannau Hamdden lleol neu gellir gwneud cais drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i’r Tîm Rheoli Gwastraff, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.