Skip to main content

Ceredigion County Council website

Atgoffir preswylwyr am y newidiadau i gasgliadau gwastraff cyn gwyliau banc mis Mai

Gyda gwyliau banc mis Mai ar y gorwel, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn newid y diwrnod casglu ar gyfer preswylwyr sydd fel arfer yn derbyn casgliad gwastraff ar ddydd Llun.

Pwrpas hyn yw ceisio sicrhau y bydd y gwasanaeth gwastraff yn parhau’n effeithiol dros y gwyliau banc.

Dros y gwyliau banc, byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:

Diwrnod Casglu Arferol

 

Casglu ar

Dydd Llun, 05 Mai 2025

yn symud i

Dydd Sadwrn, 03 Mai 2025

Dydd Llun, 26 Mai 2025

yn symud i

Dydd Sadwrn, 24 Mai 2025

 Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ystod yr wythnos sydd yn arwain at y gŵyl banc gydag unrhyw newid i’r drefn uchod: www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff 

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”

Safleoedd Gwastraff Cartref

Dros gwyliau banc mis Mai, bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llanbed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:

Diwrnod

Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llanbed a Chilmaenllwyd dros y Gwyliau Banc

Dydd Llun, 05 Mai 2025

10:00 – 15:00

Dydd Llun, 26 Mai 2025

10:00 – 15:00

 

Dros gwyliau banc mis Mai, bydd oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon fel a ganlyn:

Diwrnod

Oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros y Gwyliau Banc

Dydd Llun, 05 Mai 2025

Ar Gau

Dydd Llun, 26 Mai 2025

Ar Gau

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt CLIC drwy ffonio 01545 570881, neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk