Grwpiau Cymunedol
Croeso i dudalen Grwpiau Ceredigion Oed Gyfeillgar. Dros y misoedd nesaf, ein bwriad yw arddangos grwpiau yng Ngheredigion sydd eisoes yn cyflawni ymarfer Oed Gyfeillgar a dod â gwybodaeth i chi am eu digwyddiadau a'u gweithgareddau.
Grantiau Ceredigion Oed Gyfeillgar - Nawr ar Agor
Oes gennych syniad a all helpu eich cymuned i ddod yn fwy Oed Gyfeillgar?
Rydym yn cynnig grantiau o hyd at £500 i gefnogi gweithgareddau ac digwyddiadau rhynggenedlaethol sy’n helpu pobl i aros yn gysylltiedig, yn weithgar ac wedi’u cynnwys wrth iddynt heneiddio.
Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, gall ein Llyfryn Oed Gyfeillgar eich helpu i ddatblygu eich syniad a chynllunio eich prosiect.
Dyddiad cau: 20 Ionawr 2026
Mae’r cyllid yn gyfyngedig, felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Darganfod mwy a gwneud cais ar wefan Cysylltu Ceredigion - Cronfa Ceredigion Oed Gyfeillgar 2026.

Sbotolau Ar...
Neuadd Pentref Aber-porth

Mae hygyrchedd Neuadd Gymunedol Aberporth wedi gwella diolch i Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar. Gwnaeth y grant alluogi’r neuadd i osod drws awtomatig/cynorthwyol, gan wneud hi’n haws i drigolion hŷn a phawb â heriau symud fynd i mewn yn ddiogel ac yn annibynnol.
Mae’r newid syml hwn wedi cael effaith fawr, gan sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau digwyddiadau, gweithgareddau a chysylltiadau cymunedol heb rwystrau. Drwy flaenoriaethu hygyrchedd, mae Neuadd Gymunedol Aberporth yn creu amgylchedd croesawgar ac oed-gyfeillgar lle mae pob aelod o’r gymuned yn teimlo’n rhan ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae’r neuadd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan ym mywyd cymunedol.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Neuadd Bentref Aber-porth.
Hwb Penparcau

Mae Hwb Penparcau wedi dod o hyd i ffordd syml ond effeithiol o ddod â chenedlaethau at ei gilydd—drwy greu ardal chwarae fechan yn eu caffi cymunedol. Gyda chymorth Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar, llwyddwyd i brynu byrddau gweithgareddau ac offer chwarae arall i ddiddanu plant ifanc mewn lle diogel a deniadol.
Mae’r ychwanegiad hwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i neiniau a theidiau lleol, sy’n gallu dod â’u wyrion gyda nhw, mwynhau paned, tamaid o gacen a sgwrs gyda ffrindiau, tra bod y plant yn chwarae gerllaw. Mae’n helpu i wneud y caffi’n fwy cynhwysol, gan leihau unigrwydd i bobl hŷn a allai fel arall ei chael hi’n anodd dod allan heb ofal plant.
Drwy gefnogi cysylltiadau rhwng cenedlaethau ac yn cynnig lle i bawb deimlo’n gartrefol, mae Hwb Penparcau yn dangos sut gall newidiadau bychain gael effaith fawr. Mae’r ardal chwarae eisoes wedi dod yn rhan werthfawr o’r caffi, gan annog ymweliadau rheolaidd a chreu awyrgylch mwy bywiog a chymdeithasol i’r gymuned gyfan.
I gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan Hwb Penparcau i'w gynnig, ewch i'w gwefan yma: https://penparcau.cymru/
(Gorffenaf 2025)
Defnyddiodd Côr Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn

Grŵp o ddynion hŷn a ddaeth ynghyd drwy gariad at gerddoriaeth a chwaraeon—eu Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar i fynd â’u lleisiau ar daith yn gynharach eleni. Ym mis Chwefror, teithiodd y côr i Glwb Rygbi Castell Nedd i gefnogi Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn wrth iddynt wynebu Castell Nedd.
Fe wnaeth y grant helpu i dalu cost y bws, gan alluogi’r grŵp i deithio gyda’i gilydd ac i berfformio ar ddiwrnod y gêm. Roedd y digwyddiad yn brofiad llawen i’r côr ac i’r dorf, gan roi cyfle gwerthfawr i feithrin cysylltiadau a chymuned.
Diolch i’r grant, mae’r côr yn parhau i gryfhau cyfeillgarwch, hybu llesiant, a chodi eu lleisiau—gyda’i gilydd.
(Mehefin 2025)
Grŵp Celf Llanfarian

Daeth y syniad am Grŵp Celf i fod yn ystod cyfarfod misol yn Neuadd Llanfarian, lle roedd y pwyllgor yn archwilio gweithgareddau a allai bod o fudd i'r gymuned leol. Pan glywsant am Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar, gwelon nhw gyfle i droi’r syniad yn weithred— ac roeddent wrth eu bodd yn cael eu cyllid.
Diolch i’r grant, mae’r grŵp nawr yn cynnal sesiynau celf wythnosol am ddwy awr, ac mae cynlluniau ar gyfer cyflwyno crefft yn y dyfodol wrth i’r grŵp dyfu. Mae’r holl ddeunyddiau yn cael eu darparu, ac mae’r sesiynau’n cynnig amgylchedd cynnes, croesawgar, ac yn gymdeithasol i bobl o bob oed i fynegi eu hunain yn greadigol.
P’un ai ydych chi’n chwilfrydig i ddechrau creu, neu jyst eisiau galw heibio i weld beth sydd yn digwydd, mae croeso cynnes yn aros i chi. Mae’r Grŵp Celf yn dal yn ei ddyddiau cynnar, ond mae’r nifer yn tyfu, ac mae’r pwyllgor yn gyffrous am y dyfodol a’r effaith bositif mae’r sesiynau hyn yn eu cael—datblygu sgiliau, hyder, a chreu cysylltiadau cryf yn y gymuned.
Mae'r Grŵp Celf yn cwrdd yn Neuadd Llanfarian pob dydd Iau o 10am i 12pm.
(Mehefin 2025)