Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cefnogaeth i Bobl Hŷn

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yn benodol ar gyfer pobl hŷn a phensiynwyr.

 

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1959 gallech gael naill ai £100 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer y gaeaf. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth DU - Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych wedi clywed am y newidiadau i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, byddwch yn ymwybodol bod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025.

 

Taliadau Tywydd Oer

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer yn awtomatig bob tro y mae’n mynd yn oer iawn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Taliad Tywydd Oer y Llywodraeth.

 

Credyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i'ch helpu gyda'ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Os ydych yn cael Credyd Pensiwn gallwch hefyd gael cymorth arall, fel Budd-dal Tai, Taliad Tanwydd y Gaeaf, help i dalu'r llog ar eich morgais, disgownt Treth y Cyngor, trwydded deledu am ddim a mwy.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Credyd Pensiwn y Llywodraeth

Gallwch hefyd hawlio dros y ffôn gyda llinell hawlio newydd Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

 

Gofal a Thrwsio Cymru

Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn elusen Gymreig, sy’n gweithio i sicrhau y gall pob person hŷn fyw’n annibynnol mewn cartref diogel, cynnes a chyfleus.

 

Age Cymru Dyfed

Mae Cyngor Age Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac arbenigol i bobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

 

Cefnogaeth gyda Byw'n Annibynnol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa.

 

Ceredigion Oed Gyfeillgar

Cymunedau Oed-gyfeillgar yw mannau lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cyd-weithio mewn partneriaeth i’n cefnogi a’n galluogi i heneiddio’n dda – Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Ceredigion Oed Gyfeillgar.