Hysbysiad o Etholiad
Etholiad i Senedd Cymru 7 Mai 2026 Etholaeth Ceredigion Penfro
Cynhelir etholiad am Aelodau i wasanaethu yn Senedd Cymru ar gyfer Etholaeth Ceredigion Penfro.
- Gellir cael papurau enwebu o swyddfa’r Swyddog Canlyniadau yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA (Rhif Ffôn: 01545 572302) yn ystod yr amserau a nodir isod neu ar www.ceredigion.gov.uk neu ar wefan y Comisiwn Etholiadol
- Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA rhwng 9.00am a 4.00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn ond nid hwyrach na 4.00pm ddydd Iau, 9 Ebrill 2026 (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig, yn unol â’r datganiad isod sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig.
- Rhaid gwneud apwyntiadau os ydych yn dewis cyflwyno’r papurau enwebu wyneb yn wyneb. Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio 01545 572302 neu drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol: CRO-SCE@ceredigion.gov.uk
- Gellir cyflwyno’r papurau enwebu’n electronig yn unol â’r datganiad isod sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu’n electronig (mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw hysbysiad o dynnu’n ôl):
- Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol: CRO-SCE@ceredigion.gov.uk
- Ni dderbynnir enwebiadau os cânt eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost gwahanol;
- Dylai llinell pwnc yr e-bost nodi’n glir beth yw enw’r blaid gofrestredig neu ymgeisydd unigol;
- Wedi i ni dderbyn y papurau, byddwn yn anfon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Ni fydd yr e-bost hwnnw’n cadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys;
- Bydd e-bost arall yn cael ei anfon i gadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys neu a oes unrhyw broblemau o ran yr wybodaeth a gyflwynwyd;
- Bydd angen i'r taliadau ernes priodol gael eu gwneud cyn cadarnhad bod y cynnig wedi'i gadarnhau fel dilys;
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi eu cyflwyno a bod eu dilysrwydd wedi ei gadarnhau, a hynny heb fod yn hwyrach na 4.00pm ar 9 Ebrill 2026.
- Gellir talu’r ernes i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4.00pm ddydd Iau, 9 Ebrill 2026, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu ar ffurf arian parod (punnoedd Prydeinig yn unig). Mae'r taliadau ernes sydd eu hangen fel a ganlyn:
- Ymgeisydd unigol – swm adneuon o £500.00;
- Ymgeiswyr rhestr bleidlais – swm adneuon o £500.00 ar gyfer yr ymgeisydd rhestr plaid cyntaf; a swm o £200.00 ar gyfer pob un o'r pum ymgeisydd nesaf sy'n ymddangos ar restr y blaid wleidyddol gofrestredig.
- Os ymleddir yr etholiad, cynhelir y bleidlais ddydd Iau, 7 Mai 2026.
- Bydd yn rhaid i geisiadau i gofrestri i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026. Gellir gwneud cais ar-lein gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
- Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais ar gyfer pleidleisiau post a phleidleisiau post drwy ddirprwy, newydd a chyfredol, neu gais i’w newid neu eu diddymu gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod), erbyn 5.00pm ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026. Mae hyn yn cynnwys etholwyr a’u dirprwyon sy’n dymuno gwneud newidiadau parhaol i’w trefniadau presennol.
- Mae’n rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidleisiau dirprwy drwy’r post na phleidleisiau dirprwy mewn argyfwng) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5.00pm ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026.
- Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith / gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5.00pm ddydd Iau, 7 Mai 2026. Mae’n rhaid bod yr analluedd corfforol wedi digwydd ar ôl 5.00pm ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026. I wneud cais ar sail gwaith / gwasanaeth mae’n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i’r orsaf bleidleisio’n bersonol ar ôl 5.00pm ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026.
Ceredigion
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA
01545 572032
gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
Sir Benfro
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP
01437 775844
gwasanaethauetholiadol@pembrokeshire.gov.uk
Dyddiedig 23 Mawrth 2026