
Etholiad Senedd Cymru – 7 Mai 2026
Etholaeth Ceredigion Penfro
Newidiadau i’r Senedd a’r system bleidleisio newydd
Bydd newidiadau mawr yn dod i rym cyn Etholiadau Senedd Cymru ar 7 Mai 2026. Gellir dod o hyd i’r hyn sydd angen i chi ei wybod ar y dudalen Cyfri’r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026: Pum peth i chi eu gwybod ar wefan Senedd Cymru.
Bydd gan Gymru 16 etholaeth yn hytrach na’r 40 sy’n bodoli ar hyn o bryd. Crëwyd yr etholaethau newydd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a bydd gan y Senedd 96 Aelod yn lle 60. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
O ran Ceredigion, penderfynodd y Comisiwn y byddai’r etholaeth sirol yn cael ei chreu drwy uno Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli ac Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro. Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Ceredigion Penfro ar gyfer yr etholaeth hon. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y dudalen Arolwg 2026: Penderfyniadau Terfynol ar wefan Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Map – Dyma fap o’r etholaeth newydd map o etholaeth Ceredigion Penfro.
System bleidleisio newydd
‘System rhestr gyfrannol gaeedig’ yw’r system bleidleisio newydd. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol (yn hytrach nag unigolion) neu ymgeisydd annibynnol.
Bydd y papur pleidleisio’n cynnwys rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi dal yn gallu gweld pwy rydych chi’n pleidleisio drostynt.
Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.
Bydd y seddi’n adlewyrchu canran y pleidleisiau y bydd pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei derbyn.
Pam mae etholiadau Senedd Cymru yn bwysig?
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Mae’n dewis sut mae gwario arian cyhoeddus ac mae’n penderfynu sut mae darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma le caiff deddfau Cymru eu pasio a lle caiff rhai o drethi Cymru eu gosod. Bydd Aelodau o’r Senedd yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau am ei phenderfyniadau a’i gwariant yn y Senedd.
Mae’r Senedd yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei Gweinidogion. Mae’n archwilio cynlluniau’r Llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau iddynt. Mae’r Aelodau hefyd yn codi materion yn y Senedd sy’n bwysig i chi.
Mae’r Senedd yn gyfrifol am wasanaethau fel iechyd, addysg, a thrafnidiaeth.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am rôl y Senedd yma.
Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr etholiad hwn?
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio (gweler y wybodaeth isod ynghylch sut i wneud hyn).
Ar ôl cofrestru, gall y bobl ganlynol bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai 2026:
- Pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn
- Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, neu ddinasyddion cymwys o’r Gymanwlad
- Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
- Dinasyddion tramor cymwys (dinesydd tramor cymwys yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno / arni).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol: (Ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio | Electoral Commission)
Nid oes angen Dogfen Adnabod Pleidleisiwr arnoch i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Cofrestru i bleidleisio
I bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru, mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026.
Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru – nid oes angen cofrestru ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os byddwch chi’n newid eich enw, cyfeiriad neu genedligrwydd.
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein. Mae’n cymryd 5 munud yn unig i gofrestru.
I gofrestru, bydd angen i chi ddarparu’r manylion canlynol:
- eich enw llawn,
- eich cyfeiriad,
- eich dyddiad geni, ac
- eich rhif yswiriant gwladol (os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn). Byddai’n ddefnyddiol i chi gael eich rhif yswiriant gwladol wrth law. Gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, P60, neu lythyron am drethi, pensiynau a budd-daliadau.
Os na fyddwch chi’n gallu darparu unrhyw un o’r manylion am unrhyw reswm, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Os byddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost, dylech gael e-bost gyda chadarnhad ar ôl i chi wneud cais i gofrestru.
Os na fyddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost, byddwch chi’n derbyn llythyr yn y post.
I gofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio tan y byddwch yn 16 neu’n 18 oed yn dibynnu ar yr etholiad) ac mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- dinesydd Prydeinig neu Wyddelig
- dinesydd cymwys o’r Gymanwlad sy’n byw yn y Deyrnas Unedig
- dinesydd cymwys o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig
- dinesydd tramor cymwys.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol: (Pwy all bleidleisio yn etholiadau'r DU | Electoral Commission)
Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y byddwch chi’n cael problemau.
Pleidleisio hygyrch
Darllenwch y wybodaeth am yr hyn rydym ni’n ei wneud i sicrhau bod pawb yn gallu pleidleisio yng Ngheredigion.
Penderfynu sut i bleidleisio
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, mae nifer o ffyrdd y gallwch chi bleidleisio:
Pleidleisio’n bersonol mewn Gorsaf Bleidleisio
Pan fyddwch chi’n pleidleisio’n bersonol, byddwch chi’n mynd i’r orsaf bleidleisio a ddynodwyd i chi. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol.
Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7.00am a 10.00pm ar ddiwrnod yr etholiad sef 7 Mai 2026, ac maent fel arfer mewn adeiladau cyhoeddus fel ysgolion neu neuaddau lleol.
Cyn i chi fynd i bleidleisio, gwiriwch ym mha le mae eich gorsaf bleidleisio. Efallai nad yr orsaf agosaf at le rydych chi’n byw fydd eich gorsaf chi, ac efallai y bydd wedi newid ers y tro diwethaf i chi bleidleisio.
Dim ond yn yr orsaf bleidleisio sydd wedi’i phennu ar eich cyfer chi y gallwch chi bleidleisio.
Bydd cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio. Byddwn yn anfon y cerdyn drwy’r post ychydig o wythnosau cyn diwrnod yr etholiad.
Gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio yma: (Mapiau o’r Ardaloedd Lleol yng - Cyngor Sir Ceredigion)
Yr hyn sydd i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
Bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad i’r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch chi’n cyrraedd.
Byddwch yn derbyn papur pleidleisio a fydd yn cynnwys manylion ynglŷn â sut i bleidleisio a’r dewisiadau pleidleisio ar gyfer yr etholiad. Os byddwch chi angen unrhyw gymorth i fwrw eich pleidlais, gallwch ofyn i’r staff yn yr orsaf bleidleisio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio’n bersonol yma.
Pleidleisio drwy’r post
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post:
- ar gyfer etholiad unigol ar ddyddiad penodol
- ar gyfer cyfnod penodol, neu
- yn barhaol.
Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen gais am bleidlais drwy’r post, ei chwblhau a’i dychwelyd atom ni dros e-bost neu drwy’r post.
Mae’r ffurflen gais yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i lenwi’r ffurflen yn gywir.
Bydd angen i chi ddarparu eich dyddiad geni a llofnodi eich ffurflen gais. Defnyddir y rhain i gadarnhau pwy ydych chi pan fyddwch chi’n pleidleisio drwy’r post.
Ni fydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol.
Os na allwch lofnodi’r ffurflen neu os na allwch lofnodi mewn ffordd gyson, cysylltwch â ni.
Os na allwch lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am gopi.
Byddwn yn anfon pecyn pleidleisio drwy’r post atoch chi cyn yr etholiad. Os oes gennych chi bleidlais bost, ni fyddwch yn gallu pleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio.
Os ydych chi eisiau canslo eich pleidlais bost ar gyfer yr etholiad hwn, bydd angen i chi wneud hynny erbyn 5.00pm ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026.
Cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost
Pan fyddwch chi’n pleidleisio drwy’r post, dylech wneud y canlynol:
- marcio eich pleidlais ar y papur pleidleisio yn gyfrinachol
- llenwi’r datganiad pleidleisio drwy’r post
- rhoi’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr amlen a ddarparwyd
- selio’r amlen eich hun.
Postiwch eich papur pleidleisio nôl cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau y caiff eich pleidlais ei chyfrif.
Os ydy hi’n rhy hwyr i chi bostio eich papur pleidleisio, gallwch fynd ag ef i’ch gorsaf bleidleisio leol cyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu i swyddfa’r Gwasanaethau Etholiadol yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
Yr hyn ddylech ei wneud os ydy eich papur pleidleisio ar goll neu wedi’i ddifetha
Mae’n rhaid i’ch papur pleidleisio ddangos eich pleidlais yn glir. Os ydyw wedi’i ddifetha neu ar goll, bydd angen i chi gael un arall.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- cysylltu â ni ar 01545 572032 i ofyn am un newydd
- casglu un newydd wrthym ni yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA hyd at 5.00pm ar ddiwrnod yr etholiad, 7 Mai 2026.
Ni allwch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post neu os ydych chi’n colli neu’n difetha eich papur pleidleisio.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os ydych chi’n gwybod na fyddwch chi’n gallu mynd i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch ofyn i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo / ynddi i fwrw eich pleidlais ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy a chyfeirir at y person sy’n pleidleisio ar eich rhan fel eich dirprwy.
Gall y person sy’n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i’ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post.
Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo / ynddi i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrth eich dirprwy sut rydych chi eisiau pleidleisio.
I wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen i gofrestru am bleidlais drwy ddirprwy, ei chwblhau, ei harwyddo, a’i hanfon yn ôl atom ni drwy’r post neu dros e-bost.
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiad hwn yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol: (Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy | Electoral Commission)
Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng
Mewn rhai amgylchiadau penodol, pan fydd argyfwng yn codi sy’n golygu na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech chi’n ymwybodol ohono cyn 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026. Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5.00pm ddydd Iau, 7 Mai 2026.
Mae’r amgylchiadau pan fo’n bosib y gallwch chi wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yn cynnwys y canlynol:
- Argyfwng meddygol
- Byddwch i ffwrdd oherwydd gwaith.
Os ydych chi angen gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng, ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01545 572032.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol: (Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | Electoral Commission)
Dyddiadau allweddol
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 20 Ebrill 2026;
- Os ydych chi wedi symud cartref yn ddiweddar ac nid ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026;
- Os ydych chi eisiau pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026;
- Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy ddirprwy (nid drwy ddirprwy mewn argyfwng), y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026;
- Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy mewn argyfwng ar gael ar ôl 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026 tan 5.00pm ar 7 Mai 2026 ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol yn unig. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 572032.
- Diwrnod yr etholiad fydd dydd Iau, 7 Mai 2026. Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7.00am tan 10.00pm.
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk, drwy ffonio 01545 572032 neu drwy’r post - Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
Os ydych chi’n byw yn Sir Benfro, bydd angen i chi gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Sir Benfro drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@pembrokeshire.gov.uk , drwy ffonio 01437 775844 neu drwy’r post – Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP.