Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwasanaethau Seibiant a Gwasanaethau Dydd Ceredigion

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 21/06/2023

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod pwyllgor ar 22/11/2023.

Cyngor Sir Ceredigion Eitem Agenda - Cyflwyno i'r Pwyllgor ganfyddiadau'r adolygiad ynglyn â thrawsnewid Gwasanaethau Dydd (Pobl Hyn, Anableddau Dysgu, Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog, ac Awtistiaeth) a Darpariaeth Seibiant (Gydol Oes) Ceredigion

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad ac argymell i’r Cabinet:

1.     Bod gweithdy yn cael ei drefnu yn gynnar yn 2024 ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach:

Fel rhan o’r gweithdy hwn, bydd cyflwyniad yn cael ei roi i’r Aelodau am leoliadau’r Canolfannau a’r gwasanaethau a gynigir ar hyn o bryd.

Y gobaith yw y bydd modd cynnal y Gweithdy yn un o Ganolfannau’r Awdurdod.

2.     Bod y Cabinet yn cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith o ail-lunio’r gwasanaethau dydd a’r ddarpariaeth seibiant yn unol â’r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant a’r ffactorau cenedlaethol sy’n sbarduno newid.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Ar 6 Rhagfyr 2022, cymeradwyodd y Cabinet i ni fwrw ati ag ymgynghoriad ehangach yn 2023 sy’n canolbwyntio ar ail-lunio Gwasanaethau Dydd a darpariaeth seibiant. Bydd cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a rhanddeiliaid gymryd rhan yn y gwaith o lunio cyfleoedd sy’n canolbwyntio ar y person ledled Ceredigion ar gyfer y dyfodol. Comisiynwyd Practice Solutions fel cwmni annibynnol i hwyluso’r gwaith hwn, a byddwn yn ymgynghori gyda chi i gyd ymhellach yn gynnar yn 2023 i sicrhau bod gennych chi i gyd gyfle i gyfrannu at lunio’r ddarpariaeth yn y sir ar gyfer y dyfodol.

Ein nod yw cyfathrebu gyda defnyddwyr presennol y gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a rhanddeiliaid ehangach sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’r trydydd sector, eiriolwyr, y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd gyda’r nod o ‘ddarparu fframwaith strategol i gydlynu a chyflwyno ystod o raglenni iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd a lled y rhanbarth, gan wneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael, lleihau achosion o ddyblygu, sicrhau cysondeb a darparu gwell gwasanaethau a newid trawsnewidiol yn y ffordd yr ydym yn mynd ati ar y cyd i gomisiynu a chaffael gwasanaethau o safon uchel am bris gwell, a gwella’r canlyniadau i ddinasyddion y rhanbarth.’

Mae’r darn pwysig hwn o waith yn cael ei wneud ochr yn ochr â Rhaglen Llesiant Gydol Oes yr Awdurdod Lleol a Strategaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol ehangach.

Yn rhan o’r gwaith ymgynghori ac ymgysylltu hwn rydym yn gobeithio cael gwell dealltwriaeth o gyfleodd gwasanaethau dydd a chyfleoedd seibiant ar gyfer ein Plant sy’n Derbyn Gofal, Plant ag Anableddau, Oedolion Hŷn, unigolion a theuluoedd a allai fod angen mynediad at wasanaethau yn y dyfodol a phoblogaeth ehangach Ceredigion.

Cwblhewch yr holiadur ar-lein.

Bydd y cyfle ymgynghori ac ymgysylltu yn dechrau ar 29/03/2023 ac yn dod i ben ar 21/06/2023.

Yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn ddiweddar, hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran.

Dyma'r adroddiad Adolygiad o Gyfleoedd Dydd a Gofal Seibiant sy'n nodi’r camau gweithredu a argymhellir o ran y ffordd ymlaen.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.